Add parallel Print Page Options

10 Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd. Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy. Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â’i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl. Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â’th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion. Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd: Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel. Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear. Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a’r neb a wasgaro gae, sarff a’i brath. Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a’r neb a hollto goed, a gaiff niwed oddi wrthynt. 10 Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo. 11 Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus. 12 Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun. 13 Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd. 14 Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef? 15 Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i’r ddinas.

16 Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a’th dywysogion yn bwyta yn fore. 17 Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion, a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

18 Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.

19 Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.

20 Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.

11 Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau. Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear. Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe. Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a’r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda. Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl. Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.

Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul. Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.

Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll. 10 Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.

12 Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt: Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw: Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri; A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol: Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew. Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a’i rhoes ef.

Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl. A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer. 10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd. 11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail. 12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.

13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn. 14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.