Add parallel Print Page Options

13 A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.

Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a’i enw ef oedd Manoa; a’i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i’r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan. Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o’r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.

Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a’i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw. Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth.

Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir. A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi. 10 A’r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i’w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall. 11 A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi. 12 A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef? 13 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi. 14 Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.

15 A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di. 16 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i’r Arglwydd. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe. 17 A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Beth yw dy enw, fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben? 18 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol? 19 Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd‐offrwm, ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r Arglwydd. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych. 20 Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau. 21 (Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe. 22 A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom Dduw. 23 Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24 A’r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A’r bachgen a gynyddodd; a’r Arglwydd a’i bendithiodd ef. 25 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.

14 A Samson a aeth i waered i Timnath; ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid. Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam, ac a ddywedodd, Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i mi. Yna y dywedodd ei dad a’i fam wrtho, Onid oes ymysg merched dy frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig? A dywedodd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi; canys y mae hi wrth fy modd i. Ond ni wyddai ei dad ef na’i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel. Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai. Ac efe a aeth i waered, ac a ymddiddanodd â’r wraig; ac yr oedd hi wrth fodd Samson.

Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew. Ac efe a’i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a’i fam, ac a roddodd iddynt; a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl.

10 Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wledd: canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc. 11 A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef.

12 A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a’i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad: 13 Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef. 14 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o’r bwytawr y daeth bwyd, ac o’r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod. 15 Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch? onid felly y mae? 16 A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i’m tad nac i’m mam: ac a’i mynegwn i ti? 17 A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl. 18 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo’r haul, Beth sydd felysach na mêl? a pheth gryfach na llew? Dywedodd yntau wrthynt, Oni buasai i chwi aredig â’m hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.

19 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dychymyg: a’i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad. 20 A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.