Font Size
Luc 1:46-50
Beibl William Morgan
Luc 1:46-50
Beibl William Morgan
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef.
Read full chapter
Beibl William Morgan (BWM)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
