Add parallel Print Page Options

A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw. A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo, Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab? A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef. Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi. Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto. 10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd. 11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef. 12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.

Read full chapter