Amos 1:3-2:5
Beibl William Morgan
3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. 4 Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. 5 Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. 7 Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. 8 A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. 10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 12 Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. 2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. 3 A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 5 Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.