Add parallel Print Page Options

A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt. Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf: oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di. A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di: Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.

Read full chapter