2 Corinthiaid 3:1-6
Beibl William Morgan
3 Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi? 2 Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn: 3 Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon. 4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: 5 Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw; 6 Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
