Daniel 10:4-9
Beibl William Morgan
4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Hidecel; 5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas: 6 A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa. 7 A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio. 8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth. 9 Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaear.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
