Genesis 38:12-23
Beibl William Morgan
12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a’i gyfaill Hira yr Adulamiad. 13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid. 14 Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef. 15 A Jwda a’i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb. 16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf? 17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech? 18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef. 19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith, ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod. 20 A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi. 21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain. 22 Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain. 23 A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.