Luc 20:19-25
Beibl William Morgan
19 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon. 20 A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw. 21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd. 22 Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? 24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
