Add parallel Print Page Options

10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.

Read full chapter