The Daily Audio Bible
Today's audio is from the NRSVUE. Switch to the NRSVUE to read along with the audio.
24 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant. 3 A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth. 4 A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth. 5 Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda’r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar. 6 A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. 7 A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaia, 8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, 9 Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin, 10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia, 11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia, 12 Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim, 13 Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, 14 Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer, 15 Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses, 16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel, 17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul, 18 Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia. 19 Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20 A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia. 21 Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia. 22 O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath. 23 A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 24 O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir. 25 Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia. 26 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri. 28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion. 29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel. 30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau. 31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.
25 A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd: 2 O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin. 3 A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd. 4 O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth: 5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched. 6 Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman. 7 A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8 A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl. 9 A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 10 Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 11 Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 12 Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 13 Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 14 Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 15 Yr wythfed i Jesaia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 16 Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 17 Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 18 Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 19 Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 20 Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 21 Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 22 Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 23 Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 24 Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 25 Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 26 Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 27 Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 28 Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 29 Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 30 Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 31 Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
26 Am ddosbarthiad y porthorion: O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff. 2 A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf‐anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd, 3 Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed. 4 A meibion Obed‐edom; Semaia y cyntaf‐anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed, 5 Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys Duw a’i bendithiodd ef. 6 Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy. 7 Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia. 8 Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a’u meibion, a’u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom. 9 Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol. 10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a’i gosododd ef yn ben;) 11 Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
4 Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? 2 Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. 3 Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4 Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. 5 Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. 6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, 7 Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: 8 Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. 9 A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 11 Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 12 Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? 2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? 3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: 4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. 5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.
15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. 16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.